Реферат по предмету "Иностранный язык"


Gweithred Wleidyddol Essay Research Paper Diddorol oedd

Gweithred Wleidyddol? Essay, Research Paper

Diddorol oedd darllen am yr holl agweddau yma mewn cyswllt aґr “Tan yn Llyn”, chwedl llyfr Dafydd Jenkins. Maeґn amlwg fod cryn wahaniaeth barn ynglyn aґr weithred- yn dibynnu yn bennaf ar agwedd boliticaidd yr awdur.

Teimlaf y dylir edrych yn gyntaf ar y blynyddoedd aґr misoedd yn arwain at y noson honno ym Medi ґ36. Dywed Saunders Lewis yn ei anerchiad i gynhadledd Plaid Cymru yn Chwefror 1936, tua chwe mis cyn y llosgi “yn enw deddf foesol Duw, yn enw Cristionogaeth, yn enw Cymru, galwaf arnoch i wrthwynebu hyd at eithaf eich nerth ac ym mhob un dull a modd y sefydliad melltigaid hwn, ac onis rhwystrir, yna ei ddifetha.” (5)

Maeґn son yma am “ddifetha” yr ysgol fomio. Ceir yn ei anerchiad resymau moesol, ariannol a gwleidyddol dros wrthwynebuґr sefydliad. Hwn oedd y rhybydd, hwn oedd yr awgrym cyntaf fod Saunders Lewis yn barod i fynd aґr frwydr iґr eithaf.

Sonnir am wario Ј300,000 ar yr ysgol fomio, pan na allai yr un llywodraeth gael hyd i Ј30,000 i droi ty ym Merthyr, sydd yn ol Saunders Lewis “ y druenusaf o drefi Deheudir Cymru”(5), yn ysbyty i blant oedd yn dioddef o gryd cymalau. Aґi hyn arweiniodd Saunders i losgiґr ysgol fomio?

Na, o bosib. Mae yn son yn ogystal am gynnig gan Adolf Hitler yn 1935 i wahardd “awyrblaniau” ( gair Saunders Lewis) rhag bomio tu allan i ffiniau byddinoedd. Mae yn gofyn “Paham na chroesawyd awgrym Herr Hitler ?”(5)

Aeth ymlaen i ofyn pam fod llywodraeth Lloegr yn adeiladu miloedd ar filoedd o “awyrblaniau”, i ladd plant a gwragedd diamddiffyn –rhesaymau ariannol – bywyd busnes, meddai Saunders, sydd y tu ol i lywodraeth Lloegr. Edrychai safbwynt Saunders yn hynod naif i ni hediw.

Maeґn son am y Bleidlais heddwch yn ynysoedd Prydain –pryd y bu naw o bob deg a bleidleisiodd yn erbyn polisiґr llywodraeth o adeiladu awyrennau, ac yn ogystal i greu cytundeb iґr perwyl rhwng gwledydd y byd. A yw hanes wedi dangos i ni pwy oedd yn iawn efallai?

Mae Saunders yn lladd ar lywodraeth “Lloegr“ yn ei anerchiad. Maeґn amlwg bod Saunders hyd yn oed yn 1936 yn gweld Cymruґn wlad ar wahan, gwlad wedi ei gosmesu gan Loegr. Cawn gan Saunders yn 1936 mae hiґn “angenrheidiol torri pob cysylltiad aґr llywodraeth yn Lloegr.”(5) Maeґn son am Gymreictod yr ardal. Dywed bod yr ysgol fomio yn “aneluґn union ac yn ddiffael at galon ac at einioes ein hiaith an llenyddiaeth, aґn diwylliant aґn bodolaeth fel cenedl.”(5)

Dywed yn ogystal byddai dyfodiad yr ysgol fomio “yn dranc iґr iaith Gymraeg ac iґn cenedl ni.”(5)

Soniai yn ogystal am effaith dychrynllyd y bomio, ac mae llywodraeth Lloegr oedd yn bennaf gyfrifol am “barhad a chynydd y perygl.”(5)

Llawn sylweddolai fod rhyfel ar y ffordd. Fel pawb arall sylweddolai y perygl oґr Almaen, eto ceir rhyw awgrym ei fod yn fwy cefnogol o safbwynt Hitler (gwir neu beidio) nag o lywodraeth “Lloegr”.

Cyn dod i unrhyw farn pendant, dylir ystyried ymhellach ac yn ehangach. Dywedodd Dafydd Jenkins yn Cymruґn Deffro (hanes y Blaid o 1925 i 1975) mae chwilio a “dyheu am ei gyfle i gyflawni gweithred a allai danio dychymyg Cymru”(1) oedd Saunders Lewis.

‘Roedd y Western Mail (ffynhonell “Cynruґn Deffro”) oґr cyfnod wedi gohebu yn 1936 fod rhyw Mr X yn son am “giving his life to Wales” ac yn ogystal “We have talked long enough. The time has come to do something, and if our bodies are broken and lives forfeit, what will it mater if the end is achieved?”(1) Gelwir y Mr X yma gan y gohebydd yn “pseudo –martyr”. Heb amhaeaeth Saunders Lewis oedd awdur y geiriau uchod. Sylw arall a gawn gan y gohebydd yw “apparently the role of the Gandhi of Wales will be filled by Mr Saunders Lewis.”(1)

Fel ddywedodd Dafydd Jenkins(yn ei lyfr Cymruґn Deffro) ‘roedd Saunders yn dyheu i gael y cyfle i danio dychymyg Cymru. Yn yr ysgol fomio cafodd ei gyfle, feґi cymerodd ac fe daniodd ddychymyg Cymru. Dywed Dafydd Jenkins mae “tan Penyberth a ddangosodd yn amlwg fod y Blaid ar gael.” (1)Fe daniwyd dychymyg Cymru ddigon, iddi sylweddoli fod yr awdurdodau Prydeinig yn anwybyddu Cymru yn llwyr.

Mae twf Plaid Cymru wedi ei selio ar y digwyddiad hanesyddol yma. Yn ol Cof Cenedl (Gwynfor Evans) “Bwriad gwreiddiol llywodraeth Lloegr oedd adeiladu dwy ysgol fomio un yn Abbotsbury ac un arall yn Northumberland gwrthwynebwyd y naill yn llwyddiannus gan fod maes bridio elyrch gerllaw, a gwrthodwyd yr un yn Northumberland oherwydd ei fod yn rhy agos i Lindisfarne, lle gyda cysylltiad hanesyddol a chrefyddol gyda Sant Cuthbert.”(2) Pan gyhoeddodd y llywodraeth ei bwriad o adeiladu ysgol fomio yn Llyn cododd Plaid Cymru wrthwynebiad cenedlaethol a hynny am ddau reswm. Un oedd amcan sefydliad yr Ysgol Fomio, ‘roedd y Blaid wedi bod yn wrth-filitaraidd oґr dechrau. Ail sail y gwrthwynebiad oedd bod y safle yn ran sancteiddiaf o ddaear Cymru syґn bodoli oherwydd lleoliad Ffordd y Pererinion a arweiniau i Ynys Enlli lle gorweddai llu o saint, a bod yr ardal yma yn gaer i iaith a diwylliant y Cymru.

Pan gynhaliwyd cwrdd protest ym Mhwllheli ymddangosodd dros ddwy fil a hanner o bobl yno i wrthwynebuґr Ysgol Fomio. Yna cynhaliwyd pleidlais, oґr holl bobl nid oedd ond tua hanner cant eisiauґr Ysgol Fomio yn Llyn. Aeth yr ymgyrch yn ei flaen a dyfeiswyd slogan newydd “Lloegr aґi llu yn llygru Llyn”, dymaґr slogan a ddenodd gefnogaeth i achos y Blaid. Yn ddiweddar yn ol “Oddeutuґr Tan” (O.M.Roberts) awgrymai pobl mae ymgyrch o blaid heddychiaeth oedd ymgyrch yr Ysgol Fomio, yn naturiol roedd amryw o bobl yn erbyn paratoadau Lloegr ond y gamwedd fwyaf yn ol O.M.Roberts oedd “llygru Llyn.”

Pan aeth “Y Tri” iґr llys yn Nghaernarfon oherwydd ri gweithred o losgiґr Ysgol Fomio ‘roedd torf enfawr yn disgwyl iddynt ddod allan. Disgrifiodd O.M.Roberts yn ei lyfr “Oddeutuґr tan” y digwyddiad fel hyn “Cyrraedd y Maes a dychryn. Yr oedd yno ganoedd, onid miloedd, wedi ymgasglu, aґr lle yn ddu gan bobl.”(3) Dyma ddisgrifiad “byw” iawn oґr olygfa odidog o gymaint o bobl yn cefnogi Saunders, Valentine a D.J.Williams.

Oddi mewn iґr llys yr oedd Lewis Valentine wedi llwyddo i wrthwynebuґr aelodau oґr rheithgor a oedd yn ddi gymraeg. Gwylltiodd hyn y barnwr aґi sylw oedd “How long is this farce going to continue?” Manteisiodd Saunders ar y cyfle i anerch ac er iґr barnwr dorri ar ei draws llwyddodd i dradodi pob un gair oґi araith.

Pan ddychwelodd y rheithgor, cafwyd nad oeddent yn unfarn. Nid oedd neb wedi disgwyl hynny. Golygai hyn byddai ail wrandawiad yn debygol. Symydwyd yr achos iґr Old Bailey yn Llundain. Oherwydd hyn cafwyd llawer o gydymdeimlad iґr “tri” gan bobl werinol Cymru.Ceiswyd yn mhod ffordd i wrthwynebu hynny. Roedd pobl ,megis Lloyd George er enghraifft mewn llythyr ai ei ferch,yn edliw na fyddaiґr llywodraeth fyth yn meiddio symyd achos allan o Iwerddon. Cafwyd llawer o gefnogaeth iґr “tri.” Aeth y “tri” i Lundain oґi gwirfodd. Yn ol O.M.Roberts roedd hyn yn gamgymeriad “dylent fod wedi aros a disgwyl iґr heddlu eu hebrwng iґr llys.”(3)

Parodd yr achos ond ychydig funudau a dedfrydwyd hwy i naw mis yn y carchar. Mae pob ffynhonell yn dweud mae naw mis oedd y ddedfryd ond am “Cymru a Phrydain” sydd yn dweud eu bod wediґw carcharu am flwyddyn, mae hyn i mi yn od fod llyfr hanes yn cael ffaith elfennol fel hyn yn anghywir. Dangoswyd meddaiґr Ddraig Goch fod “Cymru yn wlad y gellir dioddef trosti yn ogystal ag elwa arni.”

Tyfodd y Blaid lawer yn yґr amser yma ond ar ol iґr “tri” fynd iґr carchar methodd arweinwyr y Blaid fanteisio ar y cydymdeimlad eang. Y rheswm pennaf oll am hyn yw nad oedd gan y Blaid lywydd, gyda Saunders Lewis yn y carchar, nid oedd neb oґr dirprwy swyddogion yn gallu manteisioґn llawn ar deimladau pobl Cymru.

Pan ryddhawyd y “tri” o garchar Wormwood Scrubs cawsant groeso anghymarol mewn cyfarfod o ddeuddeng mil o bobl yn Nghaernarfon. Am ychydig ymddangosai bod eu haberth wedi deffro cenedlaetholwyr Cymru. Gwelwyd (yn ol “Cof Cenedl 10”) “nad oedd gan y blaid yr adnoddau i fedi cefnogaeth eang.”(2)

Un peth sydd yn ffactor ym mhob ffynhonell,nid oes neb yn anghytuno ac yn condemioґr llosgi.

Maeґr llyfrau Cymruґn Deffro, Oddeutuґr Tan a Canlyn Arthur yn cytuno gyda llosgiґn Mhenyberth Mae Cof Cenedl yn tueddu i fod yn ochri ychydig gydaґr llosgwyr. Mae Hanes Cymru a Cymru a Phrydain ar y llaw arall yn ddi farn. Nid oeddwn yn gallu darganfod ffynhonell Gymraeg a oedd yn anghytuno gydaґr digwyddiad.

Yn fy marn i ni lwyddodd Saunders Lewis i newid Cymru fel y dymunai, ond mae hanes Penyberth ar blynyddoedd a ddilynodd yn brawf pendant iddo newid Cymru. Oni bai am weledigaeth Saunders Lewis ni fuasai Plaid Cymruґn bod heddiw. Rhoddodd i ni weledigaeth a wnaґn bosibl Gymru Gymraeg sydd yn rhywbeth byw, syґn cryfhau i fod yn nerthol ac yn wlad a saif ar ei thraed ei hun mewn blynyddoedd i ddod. Mewn amser mi gyflawnwn fel cenedl weledigaeth Saunders Lewis.




Не сдавайте скачаную работу преподавателю!
Данный реферат Вы можете использовать для подготовки курсовых проектов.

Поделись с друзьями, за репост + 100 мильонов к студенческой карме :

Пишем реферат самостоятельно:
! Как писать рефераты
Практические рекомендации по написанию студенческих рефератов.
! План реферата Краткий список разделов, отражающий структура и порядок работы над будующим рефератом.
! Введение реферата Вводная часть работы, в которой отражается цель и обозначается список задач.
! Заключение реферата В заключении подводятся итоги, описывается была ли достигнута поставленная цель, каковы результаты.
! Оформление рефератов Методические рекомендации по грамотному оформлению работы по ГОСТ.

Читайте также:
Виды рефератов Какими бывают рефераты по своему назначению и структуре.